Cynan Jones yn fuddugol - Gwobr Stori Fer y BBC 2017

Cynan Jones yn fuddugol - Gwobr Stori Fer y BBC 2017

06 Hydref 2017

Cynan Jones1

Stori fer o waith yr awdur o Geredigion, Cynan Jones, a ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth Gwobr Stori Fer y BBC 2017.

Mae’n ennill gwobr o £15,000 am ei stori fer delynegol, ‘The Edge of the Shoal’, ac yn ôl un o feirniaid y gystadleuaeth eleni, yr awdur Jon McGregor: "Mae’n ddarllen cynhyrfus, arswydus…ac yn enillydd haeddiannol.”

Ymysg y straeon byrion a ddetholwyd i'r rhestr fer o blith dros 600 o gynigion eleni roedd

  • ‘Murmur’ gan Will Eaves;
  • ‘The Waken’ gan Jenni Fagan;
  • ‘The Collector’ gan Benjamin Markovits;
  • ‘If a book is locked there’s probably a good reason for that, don’t you think?’ gan Helen Oyeyemi

Darlledwyd y straeon ar BBC Radio 4, a gellir clywed stori Cynan Jones yma.

Mae Cynan Jones eisoes wedi cyhoeddi pum nofel ac mae ei waith wedi eu cyfieithu i'r Almaeneg, Arabeg, Albaneg, Eidaleg, Ffrangeg, Hebraeg, Iseldireg, Sbaeneg a Macedoneg.