Darllen Y Dolig: Sesiwn Adfent AmGen
Yn dilyn ein sesiwn ‘Darllen y Byd’ fel rhan o raglen Eisteddfod AmGen yn yr Haf, trefnwyd y Gyfnewidfa Lên sesiwn arbennig ‘Darllen y Dolig’ ar gyfer rhaglen Adfent AmGen.
Ar nos Fercher, 9fed o Ragfyr am 19:30, ymunwch â phanelwyr o ddarllenwyr o ieithoedd arall a chyhoeddwyr Cymraeg yn trafod llyfrau Nadoligaidd i blant o Gymru a’r byd.
Ar y panel:
-
Lefi Gruffudd o’r Lolfa,
-
Myrddin ap Dafydd, yr Archdderwydd, o Wasg Carreg Gwalch,
-
Marta Listewnik, academydd a chyfieithydd llenyddol, sydd newydd gyfieithu Llyfr Glas Nebo i’r Pwyleg
-
Marion Loeffler academydd a darllenwraig frwd,
-
Sian Melangell Dafydd, awdur bardd a chyfieithydd, sydd a’i nofel ddiweddaraf ‘Filo’ ar Silff Lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru eleni
-
Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones o Brifysgol y Drindod Dewi Sant a Cari Lake o’r Gyfnewidfa Lên.
Daw’r sesiynau yma yn dilyn ein hadroddiad, Rhyngwladoli Profiadau Darllen Plant a Phobl Ifanc yn Gymraeg, sydd nawr ar gael i bori ar ein gwefan. Pwrpas yr adroddiad a’r sesiynau yma oedd i chanfod cyfleoedd i gyhoeddwyr Cymru darganfod teitlau o ieithoedd heblaw Saesneg i’w cyfieithu ac rydym yn gobeithio daw sawl prosiect cyfieithu o ganlyniad i’r gwaith a chyd-weithrediad yma rhwng Cyfnewidfa Lên Cymru, Llenyddiaeth ar draws Ffiniau a Chyngor Llyfrau Cymru o dan nawdd y Cyngor Prydeinig yng Nghymru.
