Digwyddiad digidol i ddathlu enillwyr Her Gyfieithu Translation Challenge 2020
Ymunwch â ni am noson i wobrwyo enillwyr yr Her Gyfieithu a Translation Challenge 2020 ar 30ain o Fedi, sef Diwrnod Rhyngwladol Cyfieithu.
Digwyddiad digidol i ddathlu llwyddiant yr enillwyr, Grug Muse (Her Gyfieithu) a Dr Eleoma Bodammer (Translation Challenge), yng nghwmni'r beirniaid, Mererid Hopwood a Karen Leeder, Eluned Morgan AS, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Llywydd PEN Cymru Menna Elfyn, Gosia Cabaj o Goethe-Institut a chynrychiolwyr o'n partneriaid eraill.
Cyflwynir Ffon yr Her Gyfieithu i Grug Muse gan Huw Tegid Roberts, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Noddir ac anerchiad gan Elin Jones AS.
Cofrestrwch yma.