Emilia Ivancu ar ei phreswyliad fis Ionawr

Emilia Ivancu ar ei phreswyliad fis Ionawr

21 Chwefror 2014

Edrych tuag at Gricieth

Dechreuodd fy antur gyda llenyddiaeth Cymru a map - pan ddarllenais gerddi R.S. Thomas am y tro cyntaf, doeddwn i ddim wedi gweld Cymru. Doedd Enlli yn ddim ond dotyn bach. Bryd hynny, roedd barddoniaeth R.S. Thomas yn ymddangos mor anghyffyrddadwy ond eto’n cyffroi.

Yn ystod fy ymweliad cyntaf a Chymru, prynais fy nghyfrol gyntaf gan R.S. Thomas. Ond er bod y byd yn ymddangos cymaint nes a synnwyr ac ystyr i'r lliwiau, roedd gweld yr eglwysi, y defaid, y coed a’r môr yn codi arswyd.

Y llynedd, cefais fudd mawr o breswyliad gyda Chyfnewidfa Lên Cymru. Dyna pryd y darllenais lyfr Angharad Price, O! Tyn y Gorchudd! Edrychais ar y mynyddoedd, fe welais y môr, fe welais dirlun y llyfr, a chyfarfod Angharad. Gwnes gam arall yn nes. Fe gwrddais Angharad eto yng Ngwlad Pwyl.

Fis Ionawr eleni, fe ddes i Dy Newydd gyda phersbectif gwahanol. Gweithiais yn galed bob dydd, a phob dydd gofynnais gwestiwn i Diarmuid Johnson, y cyfieithydd ymgynghorol. Roedd yr iaith a’r diwylliant Cymraeg yn ymagor gyda phob tudalen. Teimlais yr ystyr. Wrth gymryd rhan mewn gweithdy gyda Ned Thomas, doedd barddoniaeth R.S. Thomas ddim yn teimlo mor chwithig; roeddwn yn teimlo bron fel pe bawn i adref. Wrth ddychwelyd i Aberdaron eleni, adnabyddais y graig fawr goch-wyrdd ar y glannau; nid oedd yn newydd, roedd yn nes.

Heddiw, dwi’n ôl yng Ngwlad Pwyl. Mae drafft cyntaf O! Tyn y Gorchudd! yn eistedd ar fy nesg. Dwi’n teimlo bod y geiriau yn fy nghyfieithiad wedi ei cludo ymhell. Maen nhw’n dechrau teimlo fel tae nhw adref.