Cyhoeddi cyfieithiad Saesneg o Y Fro Dywyll gan Jerry Hunter

Cyhoeddi cyfieithiad Saesneg o Y Fro Dywyll gan Jerry Hunter

31 Ionawr 2018

Jerry Hunter Y Fro Dywyll

Cyhoeddwyd Dark Territory, cyfieithiad Saesneg o nofel Jerry Hunter, Y Fro Dywyll gan Y Lolfa.

Cyfieithwyd y nofel i'r Saesneg gan yr Athro Patrick K. Ford, cyn bennaeth Adran Ieithoedd a Llenyddiaeth Geltaidd ym Mhrifysgol Harvard, yr UDA.

Mae Y Fro Dywyll wedi ei gosod yn yr ail ganrif ar bymthef, yng nghyfnod Rhyfel Cartref Lloegr. Mae’r nofel yn amlygu erchyllter anghofiedig a gyflawnwyd yn erbyn y Cymry gan filwyr o Bengrynwyr Seisnig, lle y llofruddiwyd dros gant o fenywod Cymreig, ac yn ein hatgoffa nad yw trais sy’n gysylltiedig ag eithafiaeth grefyddol yn broblem newydd.

Roedd y gyfrol ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2015. Detholwyd hefyd i Silff Lyfrau’r Gyfnewidfa yn 2015, ein detholiad blynyddol o lyfrau a argymhellir gan y Gyfnewidfa ar gyfer cyfieithu dramor.

Ganwyd yr awdur Jerry Hunter yn Ohio, UDA, ac mae bellach yn Athro yn y Gymraeg ac yn Ddirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Bangor. Yn ogystal â'i gyhoeddiadau academaidd ar lenyddiaeth Gymraeg a'r profiad Cymreig-Americanaidd, mae hefyd wedi mentro i fyd ffuglen, gan ennill y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2010.

Darllenwch fwy o wybodaeth am Dark Teriritory yma.