Francesca Rhydderch yn ymddangos yng ngŵyl The Bookworm International Literary Festival, Beijing

Francesca Rhydderch yn ymddangos yng ngŵyl The Bookworm International Literary Festival, Beijing

12 Mawrth 2014

Francesca Rhydderch 394x232

Fe fydd un o awduron Silff Lyfrau 2014, Francesca Rhydderch, yn ymddangos yng ngŵyl The Bookworm International Literary Festival yn Beijing ddydd Mercher, Mawrth 12fed.

Nod The Bookworm International Literary Festival, a ariannir yn annibynnol, yw dathlu llenyddiaeth a syniadau, drwy ddigwyddiadau, gweithdai a pherfformiadau gydag awduron, meddylwyr, artistiaid a pherfformwyr.

Eleni, mae’r rhaglen yn cynnwys dros 300 o ddigwyddiadau ar draws wyth o ddinasoedd, gan gysylltu dros 110 o awduron a meddylwyr o Tsieina a thu hwnt.

Mewn sgwrs arbennig gyda Alexandra Buchler, Cyfarwyddwr Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, chwaer sefydliad Cyfnewidfa Lên Cymru, fe fydd Francesca Rhydderch yn trafod ei nofel, The Rice Paper Diaries (Seren, 2013), sydd wedi gosod yn rhannol yn Hong Kong yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yn ystod ei hymweliad a Tsieina fe fydd Francesca Rhydderch ac Alexandra Buchler hefyd yn cyfarfod a chynrychiolwyr o Shanghai Translation Publishing House, y wasg sy’n cyhoeddi’r nifer mwyaf o gyfrolau llenyddiaeth byd yn Tsieina.

Edrychwn ymlaen at groesawu cynrychiolwyr o’r Shanghai Translation Publishing House i Gymru fis Mai pan cynhelir symposiwm ar gyfnewid llenyddol a chyhoeddi rhwng Cymru a Tsieina. Trefnir y symposiwn ar y cyd gan Gyfnewidfa Lên Cymru a Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor i nodi cyhoeddi rhifyn arbennig ar Gymru o’r cylchgrawn Tsieineaidd dylanwadol Foreign Literature and Art.

Cefnogir taith Francesca Rhydderch i Tsieina gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru.