Frankfurt Book Fair 2016

Ffair Lyfrau Frankfurt 2016

21 Hydref 2016

Logo

Fe fydd Cyfnewidfa Lên Cymru yn teithio i’r Almaen ar gyfer un o ddigwyddiadau pwysicaf y diwydiant cyhoeddi, Ffair Lyfrau Frankfurt.

Eleni, Yr Iseldiroedd fydd gwlad wadd y ffair lyfrau a gynhelir rhwng Hydref 19 – 23 2016. Fe fyddwn yn cyfarfod gyda chyhoeddwyr, cyfieithwyr ac asiantaethau ac yn cyflwyno ein Silff Lyfrau diweddaraf – detholiad blynyddol o lyfrau a argymhellir gan y Gyfnewidfa ar gyfer cyfieithu dramor.

Yn ystod y ffair lyfrau, fe fyddwn yn mynychu cyfarfod rhwydwaith y Goudfazant. Mae’r rhwydwaith, sy’n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn, yn rhoi cyfle i gyrff Ewropeaidd sy’n ariannu cyfieithiadau i gyfarfod a thrafod arfer da.

Oriel Gysylltiedig

Cynnwys Cysylltiedig