Ffair Lyfrau Frankfurt 2017
Bydd Cyfnewidfa Lên Cymru yn teithio i’r Almaen fis nesaf ar gyfer un o ddigwyddiadau pwysicaf y diwydiant cyhoeddi, Ffair Lyfrau Frankfurt. Ffrainc fydd y wlad wadd eleni a gynhelir rhwng yr 11eg a 15fed o Hydref 2017.
Byddwn yn cyfarfod â chyhoeddwyr, cyfieithwyr ac asiantaethau ac yn cyflwyno ein Silff Lyfrau diweddaraf – detholiad blynyddol o lyfrau a argymhellir gan y Gyfnewidfa ar gyfer cyfieithu dramor.
Yn ystod y ffair lyfrau, fe fyddwn yn mynychu cyfarfod rhwydwaith ENLit. Mae’r rhwydwaith, sy’n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn, yn rhoi cyfle i gyrff Ewropeaidd sy’n ariannu cyfieithiadau i gyfarfod a thrafod arfer da.
Fe fydd ein chwaer sefydliad, Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, yn cynnal y drafodaeth ganlynol:
Gwleidyddiaeth Cyhoeddi Gwaith Mewn Cyfieithiad
13.00 – 14.00, Dydd Gwener, 13 Hydref 2017
Ffair Lyfrau Frankfurt, Weltempfang, Salon, Neuadd 31 L25
Gyda:
-
Neeta Gupta (Yatra Books, Delhi);
-
Laura Huerga Ayza (Raig Verd, Barcelona);
-
Laure Leroy (Zulma, Paris);
-
Ra Page (Comma Press, Manchester);
-
Cadeirydd: Olivia Snajie (Bookwitty, Paris)
I drefnu cyfarfod gyda’r Gyfnewidfa yn ystod y ffair, cysylltwch gyda ni: post@waleslitexchange.org