Frankfurt Book Fair 2018

Ffair Lyfrau Frankfurt 2018

Bydd Cyfnewidfa Lên Cymru yn teithio i’r Almaen fis nesaf ar gyfer un o ddigwyddiadau pwysicaf y diwydiant cyhoeddi, Ffair Lyfrau Frankfurt.

Georgia fydd y wlad wadd eleni a gynhelir rhwng y 10fed a’r 14eg o Hydref 2018. Byddwn yn cyfarfod â chyhoeddwyr, cyfieithwyr ac asiantaethau ac yn cyflwyno ein Silff Lyfrau diweddaraf – detholiad blynyddol o lyfrau a argymhellir gan y Gyfnewidfa ar gyfer cyfieithu dramor.

I drefnu cyfarfod gyda’r Gyfnewidfa yn ystod y ffair, cysylltwch gyda ni: post@waleslitexchange.org

Y Diweddaraf