Gillian Clarke a Deryn Rees-Jones ar restr fer gwobr T. S. Eliot 2012

Mae'r Poetry Book Society wedi cyhoeddi rhestr fer Gwobr T. S. Eliot 2012. Dewiswyd y cyfrolau canlynol gan y beirniaid, se Carol Ann Duffy (yn y gadair), Michael Longley a David Morley, o blith 131 o gyfrolau a gyflwynwyd i'r gystadleuaeth gan gyhoeddwyr:

Simon Armitage The Death of King Arthur (Faber)
Sean Borodale Bee Journal (Jonathan Cape)
Gillian Clarke Ice (Carcanet)
Julia Copus The World’s Two Smallest Humans (Faber)Paul Farley The Dark Film (Picador)
Jorie Graham P L A C E (Carcanet)
Kathleen Jamie The Overhaul (Picador)
Sharon Olds Stag’s Leap (Jonathan Cape)
Jacob Polley The Havocs (Picador)
Deryn Rees-Jones Burying the Wren (Seren)

Bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ar ddydd Llun y 14eg o Ionawr, 2013. Bydd yn derbyn siec o £15,000 sy'n cael ei anrhegu gan Mrs Valerie Eliot yn flynyddol ers i'r wobr gael ei sefydlu. Bydd pob bardd ar y rhestr fer yn derbyn £1,000.

Y Diweddaraf