Gŵyl y Gelli 2017

Gŵyl y Gelli 2017

30 Mai 2017

India collage 394x232

Mae Cyfnewidfa Lên Cymru ar y ffordd i Ŵyl y Gelli ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau fydd yn cyfieithu Cymru ac yn darllen y byd.

Gwobrwyo Enillydd Saesneg Her Gyfieithu 2017

Dydd Mawrth, 30 Mai, 5.00yh
Tŷ Haf (Summer House), Safle Gŵyl y Gelli
Seremoni wobrwyo enillydd Saesneg Her Gyfieithu 2017 Y Gyfnewidfa a Wales PEN Cymru, yn ogystal â darlleniadau a pherfformiadau gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.

Darperir lluniaeth ysgafn.

Alys Conran, Valts Ermstreits, Inga Gaile, Rhys Trimble, Ryan Van Winkle

Dydd Mawrth, 30 Mai, 7:00yh
Compass, Safle Gŵyl y Gelli
Cyfle unigryw i glywed beirdd amlwg o Gymru, Yr Alban, Latfia. Mewn darlleniad unigryw fe fydd cyfle i glywed y beirdd yn darllen gweithiau mewn cyfieithiad, gweithiau ar y cyd yn ogystal ag arbrofion creadigol a fydd yn adlewyrchu cyfeillgarwch y beirdd ac yn dathlu’r modd mae celfyddyd yn adeiladu pontydd rhwng diwylliannau.

Mewn cydweithrediad a Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau a Latvian Literature fel rhan o brosiect Ewrop Lenyddol Fyw.

Mela’r Gelli: India yn cyfarfod Cymru drwy gyfrwng barddoniaeth
Dydd Mercher, 31 Mai, 7:00yh
Starlight Stage, Safle Gŵyl y Gelli
I nodi 70 mlynedd ers annibyniaeth yr India, fe fydd 10 bardd o Gymru ac India yn cymryd rhan mewn prosiect llenyddol arbennig gan ein chwaer sefydliad Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau. Yng Ngŵyl y Gelli fe fydd cyfle i fwynhau cyflwyniad amlieithog gan y beirdd Mamta Sagar, Sian Melangell Dafydd, Anitha Thampi, Nia Davies.

Gyda chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Prydeinig Cymru.