Her Gyfieithu 2019

Her Gyfieithu 2019

09 Mai 2019

Her Gyfieithu 20192

Mae’n bleser gan Gyfnewidfa Lên Cymru a Wales PEN Cymru mewn cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, the Polish Cultural Institute ac O’r Pedwar Gwynt gyhoeddi’r Her Gyfieithu 2019.

Sefydlwyd yr Her Gyfieithu a The Translation Challenge yn 2009 er mwyn hyrwyddo a chydnabod cyfraniad hanfodol cyfieithwyr wrth i ni alluogi llenyddiaeth i deithio ar draws ffiniau. Drwy waith cyfieithwyr llenyddol gall beirdd ac awduron gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ynghyd â rhyngwladoli eu gyrfaoedd. Mae’r gwobrau hefyd yn gydnabyddiaeth fod cyfieithu llenyddol yn un o’r celfyddydau creadigol yn ogystal ag annog cyfieithwyr llenyddol newydd ar gyfer y dyfodol.

Eleni, dwy gerdd gan y bardd Pwyleg cyfoes, Julia Fiedorczuk, yw’r darnau gosod: ‘Szuflada’ a ‘Relentlessly craving’.

Mae’r ddwy gerdd, ynghyd â chyfieithiadau Saesneg a Sbaeneg, i’w gweld yma.

Dyddiad cau: 17 Mehefin 2019.
Beirniad: Dr Aled Llion Jones, Prifysgol Bangor.
Gwobr: £200 a Ffon yr Her Gyfieithu (rhoddedig gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru)

Cyhoeddir enw’r enillydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar yr 8fed o Awst, a chyhoeddir y cyfieithiad buddugol a’r feirniadaeth ar wefan O’r Pedwar Gwynt ar y diwrnod.

Rhaid cystadlu drwy wefan Wales PEN Cymru ynghyd â thalu ffi cystadlu o £6. Caniateir i gystadleuwyr gyflwyno mwy nac un cynnig ond rhaid cyflwyno ffi am bob ymgais. Caniateir i gystadleuwyr ddefnyddio unrhyw adnodd a ddymunant wrth gystadlu yn yr Her ac fe ganiateir gwaith grŵp, ond noder mai un wobr sydd.