12 Mawrth 2015
Fe fydd un o awduron ein silff lyfrau, Horatio Clare, yn ymddangos yng Ngwyl Lenyddol The Bookworm yn Beijing y mis hwn.
Mae Gwyl Lenyddol The Bookworm, sefydlwyd naw mlynedd bellach, yn ddathliad blynyddol o lenyddiaeth a syniadau, gan ddod a lleisiau amrywiol o bob rhan o’r byd ynghyd. Ariannir yr Wyl drwy gyllid preifat a’i rhedeg yn annibynnol gyda’i nod o roi llwyfan I drafodaeth onest ac amserol.
Eleni bydd dros 120 o awduron o bob rhan o’r byd yn ymgynnull ar gyfer yr wyl a gynhelir rhwng Mawrth 13 a 29, ar draws tair dinas, (Beijing, Chengdu, Suzhou), yn ogystal a phedair dinas arall drwy gyfrwng y Garafan Lenyddol.
Fe fydd Horatio Clare, yn cymryd rhan mewn pedwar digwyddiad, yn cynnwys darlleniadau o’i gyfrol Down to The Sea in Ships yn ogystal a chynnal gweithdy ar ysgrifennu taith.
Fe fydd hefyd yn cymryd rhan mewn trafodaeth banel a fydd yn canolbwyntio ar lenyddiaeth Ewrop gyda Clare Azzopardi (Malta) a Aka Morchiladze (Georgia) wedi ei chadeirio gan Alexandra Buchler, cyfarwyddwr ein chwaer sefydliad Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau.
Yn ystod eu hymweliad a Tseina, fe fydd Horatio Clare ac Alexandra Buchler hefyd yn cyfarfod gyda cynrychiolwyr o wasg Shanghai Translation Publishing House, y wasg sy’n cyhoeddi’r nifer fwyaf o gyfrolau mewn cyfieithiad yn Tseina.
Trefnir taith Horatio Clare i Tseina mewn partneriaeth a Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, a’i chefnogi gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru.