Lloyd Markham a Crystal Jeans i ymddangos yng Ngwyl Lenyddol Ilkley

Lloyd Markham a Crystal Jeans i ymddangos yng Ngwyl Lenyddol Ilkley

25 Medi 2018

Bad Ideas Chemicals Lloyd Markham NEW 2

Fe fydd yr awduron Lloyd Markham a Crystal Jeans i ymddangos yng Ngŵyl Lenyddol Ilkley, gynhelir rhwng 28 Medi - 14 Hydref, a gynhelir mewn amryw leoliadau yn Ilkley, gogledd Swydd Efrog, a threfi a phentrefi cyfagos.

Enillodd Lloyd Markham wobr Betty Trask 2018 gyda ei nofel Bad Ideas / Chemicals. Detholwyd y nofel i Silff Lyfrau 2017 - 2018 Cyfnewidfa Lên Cymru, ein detholiad blynyddol o lyfrau a argymhellir ar gyfer cyfieithu dramor.

Cipiodd Light Switches are my Kryptonite gan Crystal Jeans, gategori ffuglen Saesneg Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2018. Cyhoeddir y gyfrol gan Honno.

Gŵyl Lenyddol Ilkley yw gŵyl lenyddol hynaf a mwyaf gogledd Lloegr ac fe’i chynhelir yn flynyddol yn yr Hydref. Mae’r ŵyl yn cynnwys dros 200 o ddigwyddiadau dros 17 diwrnod: yn cynnwys darlleniadau, perfformiadau, gweithdai, teithiau cerdded llenyddol. Ymysg yr awduron sy’n ymddangos eleni mae Carol Ann Duffy, John Simpson ac Alan Bennett.

Eleni, fe fydd Cyfnewidfa Lên Cymru yn cynnal y digwyddiadau isod yn yr ŵyl, a hynny mewn cydweithrediad â gweisg Honno a Parthian, gyda chefnogaeth Cyngor y Celfyddydau:

Lemons to Lemonade: Workshop with Crystal Jeans


Gweithdy gyda’r nofelydd o Gaerdydd, Crystal Jeans, ar ddefnyddio profiadau wrth ysgrifennu ffuglen gyda phwyslais arbennig ar ddefnyddio hen ddicter, chwerwedd a phoen mewn ffyrdd amrywiol.

Dydd Sadwrn, 29 Medi, 2pm, Ilkley Arts Studio. (Wedi gwerthu allan).

Tales of Independence and Belonging

Digwyddiad yng nghwmni tri llais newydd:

  • Crystal Jeans;
  • Lloyd Markham;
  • Glen James Brown.

Dydd Sadwrn, 29 Medi, 5.30pm, Church House, £7 / £5 consesiwn.
Ceir mwy o wybodaeth am yr ŵyl yma.