19 Ionawr 2013
Fis Ionawr, bydd saith o awduron a chyfieithwyr tramor yn cael eu croesawu i Dŷ Newydd: Y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol. Maent bob un wedi ennill cyfnod preswyl Tŷ Cyfieithu Cymru a gefnogir gan Lenyddiaeth Cymru. Yn ystod eu cyfnod preswyl mi fydd y cyfieithwyr yn cyfarfod yr awduron y maent yn cyfieithu eu gwaith yn ogystal ag yn cael cyfle i ddod i adnabod y byd llenyddol yng Nghymru yn well.
Bydd Sunandan Roy Chowdhury o Calcutta ac Emilia Ivancu o Rwmania ill dau yn gweithio ar gyfieithu O! Tyn y Gorchudd gan Angharad Price - i'r Bengali a'r Rwmaneg. Bydd Katica Acevska yn canolbwyntio ar gyfieithu My Piece of Happiness gan Lewis Davies i'r Facedoneg a Barbara Pogačnik yn cyfieithu barddoniaeth Patrick McGuinness i'r Slofeneg.
Dyma ddyddiadur ar ffurf delweddau gan yr awdur o Antwerp, Anne Provoost.