Adroddiad Rhyngwladoli Profiadau Darllen i Blant a Phobl Ifanc

Adroddiad Rhyngwladoli Profiadau Darllen i Blant a Phobl Ifanc

08 Rhagfyr 2020

Cyfnewid Anrhegion Llyfrau Nadolig o Gymru ar Byd

Rydym yn falch iawn rhannu ein hadroddiad Rhyngwladoli Profiadau Darllen Plant a Phobl Ifanc yn Gymraeg, a’r adnodd ‘Cyswllt Cyfieithu’ ar ein gwefan yr wythnos hon. Mae’r adroddiad yn ffrwyth prosiect rhwng Cyfnewidfa Lên Cymru, Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau a’r Cyngor Llyfrau o dan nawdd Y Cyngor Prydeinig yng Nghymru.

Mae’r adroddiad newydd ei gyhoeddi ac ar gael ar ein gwefan yma. Mae’r adroddiad yn trafod rhai o’r heriau sydd, gan fod cyn lleied o gyfieithiadau Cymraeg sydd yn dod o ieithoedd heblaw Saesneg, a’n gorddibyniaeth ar gyfieithiadau o’r Saesneg, ac mae hefyd yn cynnig atebion ar ffurf Canllaw o’r enw Cyswllt Cyfieithu.

Mae’r Cyswllt Cyfieithu yn adnodd ar gyfer cyhoeddwyr er mwyn canfod teitlau addas iddyn nhw gyfieithu i’r Gymraeg ac i hwyluso’r broses o gyhoeddi llenyddiaeth mewn cyfieithiad, wrth ganolbwyntio ar chwe agwedd benodol, sef asiantaethau hyrwyddo (tebyg i’r Gyfnewidfa mewn gwledydd arall), ffeiriau llyfrau a gwyliau llenyddol, rhwydweithiau, cyhoeddwyr, cyfieithwyr a gwobrau llyfrau plant.