Y bardd a chyn-olygydd Planet, Jasmine Donahaye, yn Malta

Y bardd a chyn-olygydd Planet, Jasmine Donahaye, yn Malta

24 Ebrill 2012

Mae'r bardd, golygydd a'r ysgolhaig, Jasmine Donahaye yn ymweld â Malta i gyfrannu at drafodaethau gydag awduron lleol ac i arwain gweithdy ysgrifennu creadigol. Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal ym Mhrifysgol Malta ar ddydd Mercher y 25ain o Ebrill am 5pm. Bydd trafodaeth ar y pwnc 'Sut mae ffurfiau amrywiol ar ysgrifennu yn bwydo ei gilydd.' Bydd Dr Donahaye yn siarad ochr yn ochr ag Immanuel Mifsud a Norbert Bugeja. Yn dilyn y drafodaeth bydd Jasmine yn darllen detholiad o'i chyfrol ddiweddaraf Self-Portrait as Ruth (Salt), a ddewiswyd ar gyfer Cwpwrdd Llyfrau Hydref 2010 y Gyfnewidfa. Mae hon yn gyfrol sy'n procio wrth archwilio cyflwr cyfoes Israel-Palesteina trwy gyfrwng cerddi siarp, hygyrch.

Trefnwyd gan Inizjamed a Llenyddiaeth ar draws Ffiniau.