Kathak Cynghanedd un dawnsiwr – dau fardd – tri chartref – pedair iaith

Kathak Cynghanedd un dawnsiwr – dau fardd – tri chartref – pedair iaith

03 Awst 2018

Kathak

Sut mae esgor ar air? O ble mae symudiadau’n tarddu? A fedrai’r ddau beth ddod ynghyd i greu ffurf sydd wedi ei gwreiddio mewn traddodiad ond sydd, ar yr un pryd, yn medru ei hail-greu ei hun yn ddi-ben-draw?

Fe gyfarfu Eurig Salisbury a Sampurna Chattarji am y tro cyntaf mewn gweithdy cyfieithu barddoniaeth yn 2010, ac mae’r ddau fardd wedi cydweithio’n agos byth ers hynny. Yn 2017, ynghyd ag wyth o feirdd eraill o Gymru ac o India, fe gymerodd y ddau ran mewn prosiect a drefnwyd gan Lenyddiaeth ar Draws Ffiniau i nodi 70 mlynedd o annibyniaeth yn India. Roedd y prosiect yn mynd i’r afael â thema ‘annibyniaeth’ mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd. Yn gelfyddydol, mae annibyniaeth yn aml gyfystyr â’r rhyddid i feddwl, i weithredu ac i greu y tu hwnt i gonfensiynau a gofynion y farchnad. O safbwynt unigolion a chymunedau, gall annibyniaeth ddynodi cyd-ddibyniaeth hefyd, ynghyd â’r gallu i ddeall o’r newydd ac i oresgyn gwahaniaethau. Mewn cyfnod o newid ac o ansicrwydd yn fyd-eang, bu’r prosiect yn fodd i feithrin mathau unigryw o gydweithio, ynghyd â syniadau cyffrous ynghylch sut y gellir ailddehongli’r gorffennol a’i ddwyn i olau dydd.

Ffrwyth diweddaraf eu cyfeillgarwch creadigol yw’r gyfrol o gerddi ac erthyglau, Lle Arall Ble Arall / Elsewhere Where Else. Yn ystod eu hymweliad â Kolkata, fe gafodd y ddau sgyrsiau difyr iawn â’r dawnsiwr a’r coreograffydd Vikram Iyengar, a datblygwyd y syniad o greu prosiect wedi ei ysbrydoli gan gerdd Eurig Salisbury, Gwers Gynganeddu, a chyfieithiad ohoni mewn Bangla gan Sampurna Chattarji. Bydd y tri’n dod ynghyd am yr eildro eleni am bum niwrnod ym mis Awst, a hynny er mwyn archwilio’r synau, y rhythmau a’r curiadau sydd wrth wraidd y traddodiadau hynafol a gyfleir drwy gyfrwng barddoniaeth a dawns. Byddant hefyd yn rhannu â’r cyhoedd eu gwaith ar y gweill, wrth iddynt gydblethu a chydasio cerddi, sain a symudiadau.

Bydd Robert Minhinnick, enillydd gwobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2018, yn ymuno â nhw, ynghyd â Nicky Arscott a Siân Melangell Dafydd, dau fardd arall sydd wedi bod yn rhan o’r gweithgareddau creadigol a drefnir gan Lenyddiaeth ar Draws Ffiniau a Chyfnewidfa Lên Cymru.

Caffi Alys, Canolfan Owain Glyndŵr, Heol Maengwyn, Machynlleth SY20 8EE
29 Awst 6:30 yh
Mynediad am ddim; diodydd a danteithion ar gael i’w prynu.

Arad Goch Stryd y Baddon, Aberystwyth SY23 2NN
31 Awst 6:30 yh
Mynediad £5; gostyngiad £3; darperir diodydd a danteithion ar ôl y perfformiad.