Bardd o Latfia ar breswyliad cyfieithu yng Nghymru

Bardd o Latfia ar breswyliad cyfieithu yng Nghymru

17 Ebrill 2018

M Gruntmane foto by Spigana Spektore2

Fe fydd Madara Gruntmane, bardd o Latfia, ar breswyliad cyfieithu yng Nghymru rhwng Ebrill 13 - 21 2018. Ei gobaith yn ystod y preswyliad yw cyfieithu gwaith Dylan Thomas i’r Latfieg, a hynny am y tro cyntaf. Fel rhan o’r preswyliad fe fydd yn ymweld ag Abertawe ac Aberystwyth.

Ganwyd Madara yn Liepāja yn Latfia, ac mae ganddi radd BA mewn Rheolaeth Ddiwylliannol. Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf, Narkozes yn 2016. Mae’r gyfrol, a dderbyniodd Wobr Flynyddol Dewis y Darllenydd Llenyddiaeth Latfieg yn 2016, yn gasgliad o farddoniaeth gyfoes, ffeministaidd, a ysbrydolwyd gan ei phrofiadau personol.

Lansiwyd cyfieithiad Saesneg Marta Ziemelis a Richard O’Brien o’r gyfrol, Narcoses, yn Ffair Lyfrau Llundain eleni, ble roedd gwledydd y Baltig, Latfia, Lithiwania ac Estonia yn wledydd gwadd. Cyhoeddir y gyfrol gan Parthian Books.

Nid dyma’r tro cyntaf i Madara ymweld â Chymru. Bu’n rhan o weithdy cyfieithu Poetry Connections a drefnwyd gan ein chwaer sefydliad Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau fis Mawrth llynedd.

Cefnogir preswyliad Madara gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy arian loteri Cyngor Celfyddydau Cymru.

Darllenwch fwy am gyfieithiad Saesneg Parthian Books o Narkozes yma.