Y Gyfnewidfa yn croesawu GRANTA i Aberystwyth

Y Gyfnewidfa yn croesawu GRANTA i Aberystwyth

31 Mai 2012

1335177006390

Mae'r Gyfnewidfa yn cydweithio gyda chylchgrawn GRANTA wrth drefnu lansiad cyntaf y cylchrawn yng Nghymru. Bydd rhifyn 119: Britain yn cael ei lansio yn Waterstones, Stryd Fawr Aberystwyth am 6.30pm ddydd Iau y 10fed o Fai, 2012. Tocynnau yn £2. Is-olygydd Granta, Ellah Allfrey, fydd yn cadeirio noson o ddarlleniadau a sgyrsiau gydag un o gyfranwyr y rhifyn hwn, Cynan Jones, a'r awdur Owen Martell. Byddant yn trafod tirlun Cymru, hunaniaeth, gwrywdod a hela moch daear. Mae'r digwyddiad hwn yn un o gyfres sy'n cael eu trefnu ar draws Prydain i lansio'r rhifyn diweddaraf o'r cylchgrawn. Mae'r Gyfnewidfa hefyd yn trefnu sesiynau i Ellah Allfrey yn ystod ei hymweliad gyda myfyrwyr ysgrifennu creadigol Prifysgol Aberystwyth.

Cynnwys Cysylltiedig