Prosiect Ewrop Greadigol ULYSSES' SHELTER

Prosiect Ewrop Greadigol ULYSSES' SHELTER

09 Hydref 2019

Ulysses shelter logo

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod yn lansio ULYSSES’ SHELTER’, sef prosiect a gefnogir gan Ewrop Greadigol/Creative Europe sydd yn cynnig cyfnodau preswyl i awduron a chyfieithwyr dan 40 o Gymru, Croatia, Gwlad Groeg, Serbia a Slofenia. Arweinir y prosiect gan sefydliad Sandorf (Croatia) ac mae ei logo yn cyfeirio at ynys fach Mljet, un o'r lleoliadau ar gyfer y preswyliadau, a’r asynnod sydd yno, sef y ffordd orau o deithio ar yr ynys.

Mae ULYSSES’ SHELTER: ADEILADU RHWYDWAITH AWDURON PRESWYL yn ail gam o brosiect a gyd-ariennir gan raglen Ewrop Greadigol yr Undeb Ewropeaidd gyda’r nod o greu rhwydwaith o breswyliadau cyfnewid llenyddol yn Ewrop wedi eu cynllunio’n bennaf ar gyfer awduron (rhyddiaith/barddoniaeth) a chyfieithwyr llenyddol ifainc. Arweinir y prosiect gan Sandorf (cyhoeddwr ac asiantaeth lenyddol yng Nghroatia) ac mae’r prosiect yn cael ei weithredu yng Nghymru gan Lenyddiaeth ar draws Ffiniau a Chyfnewidfa Lên Cymru. Y partneriaid eraill yw Krokodil (Belgrad, Serbia), Thraka (Gwlad Groeg) a Chymdeithas Awduron Slofenia.

Cynhelir rhaglen y preswyliadau ar ynys Mljet (Croatia), yn Ljubljana (Slofenia), yn Larissa (Gwlad Groeg), yn Belgrad (Serbia) ac mewn sawl lleoliad yng Nghymru. Bydd rhaglen y preswyliadau yn canolbwyntio ar symudedd rhyng-genedlaethol ac ar ddatblygu cynulleidfaoedd ac fe fydd yn rhoi cyfleoedd i awduron a chyfieithwyr ifanc i gael gweithio, perfformio a chyflwyno eu hunain mewn dau gyd-destun cymdeithasol a diwylliannol gwahanol. Bydd y preswyliadau yn dod a chyfleoedd a phosibiliadau newydd i eraill fel rhan o’r prosiect, yn awduron, cyfieithwyr, golygyddion, cyhoeddwyr a/neu gynrychiolwyr o gyrff llenyddol yn Nghymru, Croatia, Slofenia, Serbia a Gwlad Groeg. Yn ogystal, bydd rhaglen sylweddol o weithgareddau llenyddol wedi eu hanelu at grwpiau targed (lleol) er mwyn cyfoethogi’r preswyliadau.

Thema’r flwyddyn gyntaf o Ulysses Shelter 2, a fydd yn berthnasol i bob un a ddewisir ar gyfer preswyliad yn yr alwad hon, yw Llyfrgell – fel gofod ffisegol ac fel basdata rhithiol o wybodaeth bwysig a pherthnasol ar gyfer unrhyw gyd-destun artistig, diwylliannol neu gymdeithasol. Yn ogystal â datblygu Llyfrgell Ryngwladol Barddoniaeth sydd yn gysylltiedig â phreswyliad Mljet fel rhan o brosiect Ulysses Shelter, gwahoddir y rhai a fydd ar breswyliad i fyfyrio ar bwysigrwydd llyfrgell fel symbol pwysig ac fel cofeb i heddwch a chyd-ddealltwriaeth rhwng pobl drwy gyfrannu cerdd, ysgrif, blogiad neu gyfieithiad ar y thema hon.