Dewis Llŷr Gwyn Lewis fel un o Leisiau Newydd Ewrop

Dewis Llŷr Gwyn Lewis fel un o Leisiau Newydd Ewrop

17 Mawrth 2017

LAF New Voices 2017 collage

Mae’r awdur a’r bardd Llŷr Gwyn Lewis wedi ei ddewis fel un o ddeg o Leisiau Newydd Ewrop. Gwnaethpwyd y cyhoeddiad yn Ffair Lyfrau Llundain, fel rhan o brosiect arloesol, Ewrop Lenyddol Fyw (LEuL), a arweinir gan ein chwaer sefydliad Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau (LAF).

Mae rhestr Lleisiau Newydd Ewrop ar gyfer 2017 hefyd yn cynnwys nofelwyr, beirdd, dramodwyr a chyfieithwyr o Wlad Belg, Bosnia & Herzegovina, Ffrainc, Gwlad yr Iâ, Latfia, Lwcsembwrg, Gwlad Pwyl, Romania a Sbaen. Dyma ail flwyddyn y cynllun, hyd yma rhoddwyd llwyfan byd-eang i awduron diddorol nad oedd yn adnabyddus y tu hwnt i'w gwledydd eu hunain.

Dywedodd Cyfarwyddwr Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, Alexandra Büchler: "Detholwyd y deg cyntaf ym mis Ebrill 2016 ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, maent wedi cael cyfle i gyflwyno eu gwaith mewn amrywiaeth o wyliau llenyddol ar draws Ewrop a thu hwnt, mae eu gwaith wedi cael ei gyfieithu i mewn i nifer o ieithoedd ac mae rhai ohonynt bellach wedi sicrhau cytundebu ar gyfer cyhoeddi cyfieithiadau o’i gwaith. Mae'r awduron yn sicr wedi dod yn fwy adnabyddus ar y llwyfan llenyddol rhyngwladol ac wedi elwa yn greadigol ac yn broffesiynol. Rydym bellach yn edrych ymlaen at weithio gyda'r deg awdur newydd gan gyflwyno eu gwaith i gynulleidfa ehangach."

Yn dilyn y cyhoeddiad yn Ffair Lyfrau Llundain, bydd y deg yn cyfarfod yng ngŵyl lenyddol Kosmopolis a gynhelir ym Marcelona rhwng 22-26 Mawrth 2017.

Yn ystod eu hymweliad, byddant yn darllen eu gwaith yn gyhoeddus fel rhan o raglen yr ŵyl, yn cyfarfod cyhoeddwyr, asiantaethau a threfnwyr digwyddiadau llenyddol, yn ogystal â derbyn cyngor proffesiynol ar sut i ddatblygu gyrfa lenyddol ryngwladol.

Mae Lleisiau Newydd Ewrop yn rhan o brosiect Ewrop Lenyddol Fyw a gydlynir gan Lenyddiaeth Ar Draws Ffiniau a’i ariannu drwy raglen Ewrop Greadigol yr Undeb Ewropeaidd, gyda chymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Darllenwch fwy am Leisiau Newydd Ewrop 2017 yma:

Y Rhestr yn llawn: