'Llyfr Glas Nebo' yn Pwyleg!

'Llyfr Glas Nebo' yn Pwyleg!

09 Rhagfyr 2020

3165219d0fe0dc7d65ec7780ea082fbd

Rydym yn falch iawn bod y cyfieithiad Pwyleg o Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros wedi’i chyhoeddi gan y cyhoeddwr Pauza. Cyfieithwyd y nofel o'r Gymraeg i'r Bwyleg gan Marta Listewnik, sef cyfieithydd Un Nos Ola Leuad a Pum Cynnig i Gymro.

Ymunodd Marta â sesiynau trefnwyd gan y Gyfnewidfa fel rhan o raglenni Eisteddfod Amgen ac Adfent Amgen yn argymell llyfrau i blant o Wlad Pwyl hoffai weld wedi ei chyfieithu i’r Gymraeg. Gwyliwch 'Darllen y Byd' a 'Darllen y Dolig' yma!

Cefnogwyd y cyfieithiad gan ein Cronfa Grantiau Cyfieithu, sef grantiau i gyhoeddwyr sydd yn cyfieithu llenyddiaeth o Gymru.