Llwyddiant i gyfrolau Silff Lyfrau’r Gyfnewidfa yng Ngwobr Llyfr y Flwyddyn 2017

Llwyddiant i gyfrolau Silff Lyfrau’r Gyfnewidfa yng Ngwobr Llyfr y Flwyddyn 2017

14 Tachwedd 2017

98243421 90482566 llyfr y flwyddyn hir res 35 2784533328sfs3 o 1

Mewn seremoni wobrwyo yn y Tramshed yng Nghaerdydd, nos Lun, 13 Tachwedd 2017, daeth dwy o gyfrolau Silff Lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru i’r brig yng Ngwobr Llyfr y Flwyddyn.

Cyflwynwyd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2017 i’r gweithiau llenyddol gorau a gyhoeddwyd yn 2016 yn Gymraeg ac yn Saesneg, a hynny mewn tri chategori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol-Greadigol. Gweinyddir y Wobr gan Lenyddiaeth Cymru.

Daeth cyfrol o straeon byrion Caryl Lewis, Y Gwreiddyn (Y Lolfa), i’r brig yng nghategori Ffuglen Gymraeg, ac mae’r gyfrol ar Silff Lyfrau’r Gyfnewidfa eleni. Enillodd Guto Dafydd wobr Barn y Bobl Golwg360 gyda’i nofel Ymbelydredd (Y Lolfa), a bu’r nofel honno ar Silff Lyfrau’r Gyfnewidfa yn 2016. Cyrhaeddodd nofel Cynan Jones, Cove, sydd ar y Silff Lyfrau eleni, restr fer yn y categori ffuglen Saesneg.

Enillydd y prif wobrau eleni oedd Cofio Dic gan Idris Reynolds a Pigeon gan Alys Conran.

Derbyniodd enillydd pob categori wobr o £1,000, gyda’r prif enillwyr yn y ddwy iaith yn derbyn £3,000 yn ychwanegol.

Enillwyr Gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2017

  • Barddoniaeth Gymraeg: Bylchau, Aneirin Karadog (Cyhoeddiadau Barddas)
  • Ffuglen Gymraeg: Y Gwreiddyn, Caryl Lewis (Y Lolfa)
  • Ffeithiol Greadigol Gymraeg a’r Brif Wobr: Cofio Dic, Idris Reynolds (Gwasg Gomer)
  • Barn y Bobl Golwg360: Ymbelydredd, Guto Dafydd (Y Lolfa)
  • Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias: What Possessed Me, John Freeman (Worple)
  • Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies a Gwobr Barn y Bobl Wales Arts Review: Pigeon, Alys Conran (Parthian)
  • Ffeithiol Greadigol Saesneg: The Tradition, Peter Lord (Parthian)