25 Medi 2015
Nod y prosiect a sefydlwyd yn 2002 yw rhoi cyfle i awduron ifanc o genhedloedd amrywiol rannu eu gwaith a chyfarfod cynulleidfa ryngwladol.
Eleni gwahoddwyd Valerie Fritsch (Awstria), Marco Parlato (Yr Eidal), Elske Rahill (Iwerddon) a Llŷr Gwyn Lewis i ysgrifennu stori fer ar y thema, Adref. Fel rhan o’r prosiect cyfieithir y straeon i’r Eidaleg, Yr Almaeneg a’r Saesneg a’u cyhoeddi mewn cyfrol arbennig.
Cafodd y pedwar y cyfle i gyflwyno a thrafod eu gwaith yng Ngŵyl y Gelli fis Mai, ynghyd â’r Berlin Internationales Literaturfestival a’r Scritture Giovani Festivaletteratura yn yr Eidal fis Medi.
Ers 2002 mae nifer o awduron o Gymru wedi eu dewis i gymryd rhan ym mhrosiect Scritture Giovani, gan gynnwys Owen Sheers, Fflur Dafydd, Cynan Jones a Rachel Trezise. Mae’r Gyfnewidfa wedi cydweithio gyda Scritture Giovani ar hyd y blynyddoedd trwy gynorthwyo a chefnogi’r gwaith cyfieithu.
Darllenwch ymhellach am y prosiect trwy ymweld â’r wefan.
Llawrlwythwch y gyfrol, Home, yma.