Llŷr Gwyn Lewis i ymddangos yng Ngŵyl Ewropeaidd y Nofel Gyntaf

Llŷr Gwyn Lewis i ymddangos yng Ngŵyl Ewropeaidd y Nofel Gyntaf

19 Mai 2015

GYNG2

Fe fydd Llŷr Gwyn Lewis, un o awduron Silff Lyfrau 2014 - 2015, ynghyd a Lefi Gruffudd, Pennaeth Golygyddol ei gyhoeddwr Y Lolfa, yn ymddangos yng Ngŵyl Ewropeaidd y Nofel Gyntaf a gynhelir yn Kiel, Yr Almaen rhwng Mai 28 - 31 2015.

Fel rhan o’r ŵyl fe fydd deg o nofelwyr a’i golygyddion yn ogystal ag unigolion eraill o’r diwydiant cyhoeddi yn ymgynnull yn Kiel i drafod ysgrifennu a chyhoeddi, ymgyfarwyddo gyda nofelau newydd, a pharatoi’r ffordd ar gyfer cyfieithu.

Ymysg awduron a chyhoeddwyr eraill fydd yn cymryd rhan yn yr wŷl mae:

  • Elke Laznia awdur Kindheitswald (Müry Salzmann), Awstria;
  • Niviaq Korneliussen awdur HOMO sapienne (milik publishing), Denmark/Yr Ynys Las;
  • Denis Michelis awdur La chance que tu as (Éditions Stock), Ffrainc;
  • Manuel Niedermeier awdur Durch frühen Morgennebel (C.H. Beck), Yr Almaen;
  • Ester Armanino awdur Storia naturale di una famiglia (Giulio Einaudi editore), Yr Eidal;
  • Bertram Koeleman awdur De huisvriend (Atlas Contact Publisher), Yr Iseldiroedd;
  • Gjermund Gisvold awdur Gjøkungen (Tiden Norsk Forlag), Norwy;
  • Żanna Słoniowska awdur Dom z witrażem (Znak), Gwlad Pwyl;
  • Patrick Maisano awdur Mezzogiorno (Müry Salzmann), Swistir.

Fe fydd yr ŵyl yn agor nos Iau, Mai 28 2015 rhwng 7:00yh ac 11:00yh yn Literahaus, Kiel gyda darlleniadau cyhoeddus o bob nofel yn cynnwys Rhyw Flodau Rhyfel gan Llŷr Gwyn Lewis. Fel rhan o’r noson fe fydd yr awduron yn darllen dyfyniadau byr o’i nofelau yn yr iaith wreiddiol, gyda Eva Krautwig a Nils Aulike yn cyflwyno’r dyfyniadau mewn Almaeneg drwy gyfieithiadau sampl.

Fe fydd yr awduron hefyd yn mynychu cyfarfodydd gyda myfyrwyr ym Mhrifysgol Christian-Albrechts ynghyd a chynhadledd lenyddol gyda’r nod o greu fforwm ar gyfnewid llenyddol, ieithoedd yn ogystal a thrafod dulliau o hyrwyddo a throsglwyddo llenyddiaeth yn Ewrop.

Cefnogir taith Llŷr Gwyn Lewis i Ŵyl Ewropeaidd y Nofel Gyntaf gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru.