Manon Steffan Ros yn teithio i Farcelona

Manon Steffan Ros yn teithio i Farcelona

08 Tachwedd 2021

Llun5

Yr wythnos ddiwethaf, bu Manon Steffan Ros ym Marcelona yn hyrwyddo cyfieithiadau Sbaeneg a Chatalaneg o Llyfr Glas Nebo.

Yn ystod ei hymweliad, cymerodd ran yn ‘Barcelona Genre Fantasme Festival’, ac fe’i cyfwelwyd ar raglen Més324 ar deledu Catalaneg. Cyhoeddwyd hefyd gyfweliadau gyda hi ar wefannau newyddion Sbaeneg a Chatalaneg.

Enillodd y nofel hon Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod yn 2018, Llyfr y Flwyddyn yn 2019, ac fe’i dewiswyd i’n Silff Lyfrau yn 2018.

Cyfieithwyd y nofel i’r Gatalaneg gan Emyr Gruffydd a Miquel Saumell a’i chyhoeddi gan wasg Periscopi, ac i’r Sbaeneg gan Sara Borda Green a’i chyhoeddi gan Seix Barral.

Mae’r gyfrol hefyd wedi ei chyfieithu i’r Bwyleg gan Marta Listewnik (Pauza, 2020), a gwerthwyd yr hawliau cyfieithu i’r Saesneg, Arabeg a’r Ffrangeg.

Cefnogwyd y cyfieithiadau gan ein Cronfa Grantiau Cyfieithu, sef grantiau i gyhoeddwyr sydd yn cyfieithu llenyddiaeth gan awduron o Gymru.