Menna Elfyn in the Basque Country to launch new translation

Menna Elfyn yng Ngwlad y Basg i lansio cyfieithiad newydd

Bydd y bardd Menna Elfyn yn ymuno gyda'i chyfieithydd Sbaeneg a Basgeg, Eli Tolaretxipi yn siop lyfrau Elkar, San Sebastian i lansio cyfieithiad newydd i'r Sbaeneg o'i chyfrol, Perffaith Nam/Perfect Blemish ar y 25ain o Fai, 2012. Bydd La Mancha perfecta yn cael ei lansio gyda darlleniadau yn yr iaith wreiddiol ynghyd â darlleniadau o'r cyfieithiadau Saesneg a Sbaeneg. Bydd Eli Tolaretxipi hefyd yn darllen cyfieithiadau Basgeg sydd ganddi ar y gweill wrth iddi baratoi cyfrol newydd mewn Basgeg o waith Menna. Mae'r gyfrol Sbaeneg wedi ei chefnogi gyda grant cyfieithu gan y Gyfnewidfa.

Y Diweddaraf