Mercator Rhyngwladol: Galwad am Aelodau i'r Bwrdd

Mercator Rhyngwladol: Galwad am Aelodau i'r Bwrdd

11 Rhagfyr 2018

Mercator logo

Mae'r alwad hon bellach ar gau.

Mae Mercator Rhyngwladol yn dymuno gwahodd ceisiadau gan unigolion sydd â’r profiad a’r ymrwymiad, ac sydd yn rhannu ein gwerthoedd, ein cenadwri a’n gweledigaeth, i gyfrannu at ddatblygiad Mercator am gyfnod o ddwy flynedd yn y lle cyntaf.

Bydd y nodweddion, y sgiliau a’r profiad canlynol gan yr ymgeisydd delfrydol:

  • Profiad o lywodraethiant a datblygu busnes
  • Sgiliau cyfathrebu a bod yn llysgennad effeithiol
  • Dealltwriaeth o amlieithrwydd ac amrywiaeth ieithyddol
  • Angerdd dros ddiwylliant a’r sector greadigol
  • Ymrwymiad at ddinasyddiaeth ac at addysg
  • Bod yn gwbl benderfynol o sicrhau parhad cryf i gyfranogiad Cymru ar lefelau Ewropeaidd a rhyngwladol.

Bwrdd y Cyfarwyddwyr sydd gyfrifol am arwain y cwmni i gyflawni ei amcanion, yn gosod cyfeiriad strategol, yn sicrhau ei ethos a’i werthoedd ac yn monitro cynnydd yn erbyn y cynlluniau a chyllidebau strategol, gan adolygu ac addasu yn ôl y gofyn. Gan lynu at egwyddorion llywodraethiant addas, bydd y Bwrdd yn cynorthwyo wrth godi arian, ehangu ein rhwydwaith o gysylltiadau ac yn llysgennad effeithiol ar gyfer y cwmni.

Bydd y Bwrdd yn cyfarfod yn chwarterol. Disgwylir cynnal y cyfarfodydd hyn yn swyddfeydd Mercator, ond fe wneir trefniadau fel bo modd i aelodau sydd y tu allan i Gymru gyfrannu’n llawn heb deithio’n ormodol.

Sefydlwyd Mercator yn y lle cyntaf fel rhwydwaith Ewropeaidd yn 1988 yn dilyn Datganiad Kuijpers a basiwyd gan Senedd Ewrop. Dros y degawdau mae wedi esblygu gan lynu at ei brif genadwri sef ehangu gwybodaeth a dealltwriaeth o amrywiaeth ieithyddol Ewrop gan roi sylw penodol i’r ieithoedd lleiafrifol/edig. Yng Nghymru, mae Mercator wedi chwarae rôl arbennig yn y sector greadigol, gan gynnwys y cyfryngau, llenyddiaeth, cyhoeddi a chyfieithu, gan fod yn gartref i ddwy fenter lenyddol ryngwladol o bwys, sef Cyfnewidfa Lên Cymru (sefydlwyd ym 1998) a Llenyddiaeth ar draws Ffiniau (sefydlwyd yn 2001). Maent yn cydweithio’n agos ac yn cael eu cefnogi drwy fuddsoddiad ar y cyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Ers blynyddoedd bellach, maent yn adnabyddus yn rhyngwladol am eu hymrwymiad at amrywiaeth ac at ragoriaeth artistig.

Mae Llenyddiaeth ar draws Ffiniau: platfform Ewropeaidd ar gyfer cyfnewid llenyddol, cyfieithu a thrafod polisi wedi arwain cyfres o brosiectau mawr Ewropeaidd ers 2001 ac mae’n flaenllaw wrth ennill cytundebau cystadleuol drwy’r rhaglen Ewrop Greadigol. Mae Cyfnewidfa Lên Cymru: Cyfieithu Cymru, Darllen y Byd yn datblygu, hyrwyddo ac yn cyflwyno’r gorau o lenyddiaeth o Gymru mewn cyd-destunau rhyngwladol, gan sicrhau ei bod yn cyrraedd cynulleidfaoedd drwy’r byd, a hynny drwy gefnogi cyfieithu.

Heddiw, mae Mercator Rhyngwladol yn gwmni annibynnol, cyfyngedig drwy warant wedi ei gofrestru yng Nghymru a Lloegr. Y Sylfaenwyr-Gyfarwyddwyr yw Ned Thomas, Alexandra Büchler ac Elin Haf Gruffydd Jones. Rydym bellach yn awyddus i ehangu’r bwrdd ar gyfnod ble rydym yn torri cwys newydd o ran gweithredu, cynllunio a chodi arian yn y tymor hir ar gyfer rhaglen uchelgeisiol o weithgareddau dros gyfnod o flynyddoedd.

Mae Mercator yn gweithio ar draws nifer o ieithoedd ac mae’r Bwrdd yn gweithredu’n ddwyieithog, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn ddymunol ond nid yw’n angenrheidiol ar gyfer y swyddogaeth hon.

Yn unol â’n polisi Cyfleoedd Cyfartal, croesawn geisiadau o bob rhan o gymdeithas yn Gymraeg neu yn Saesneg.

I gyflwyno cais, e-bostiwch eich cv a llythyr dim hwy na 500 o eiriau at mercator@mercator.cymru yn egluro pam yr hoffech ymuno â Bwrdd Cyfarwyddwyr Mercator Rhyngwladol ynghyd â’r hyn y gallwch ddod i’r rôl hon, erbyn dydd Gwener 4ydd o Ionawr 2019.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn am Mercator Rhyngwladol neu am rôl aelod o’r bwrdd, cysylltwch ag Elin H G Jones ar elinmercator@gmail.com neu ar 07590428404.