Preswyliadau ar gyfer Ionawr 2013

Preswyliadau ar gyfer Ionawr 2013

24 Hydref 2012

Mae'r alwad ddiweddaraf ar gyfer preswyliadau Tŷ Cyfieithu ar gyfer awudron a chyfieithwyr o dramor. Bydd cyfle i nifer dreulio cyfnod yn Nhŷ Newydd: Y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol yn ystod Ionawr 2013 yn gweithio ar gyfieithiadau o lenyddiaeth Cymru neu ar brosiectau ysgrifennu penodol.

Am fwy o wybodaeth dylid cysylltu â Sioned Puw Rowlands trwy'r ebost sioned@cyfnewidfalen.org. Bydd angen i geisiadau gyrraedd yr un cyfeiriad cyn hanner nos ar y 15fed o Dachwedd, 2012.

Cefnogir preswyliadau Tŷ Cyfieithu gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru, Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau a Llenyddiaeth Cymru.