Nofel o Haiti i'w chyhoeddi yng Nghymru

Nofel o Haiti i'w chyhoeddi yng Nghymru

24 Ionawr 2013

La folie était venue avec la pluie

Bu daeargryn difrifol yn Haiti fis Ionawr 2010. Daeth y gwanwyn a lansiwyd Her Tŷ Cyfieithu Cymru/Oxfam Cymru gyda La folie était venue avec la pluie yn ddarn i’w gyfieithu i’r Gymraeg neu’r Saesneg. Ffrangeg oedd y gwreiddiol ac roeddem yn chwilio am rywun fyddai’n medru trosi nid yn unig y geiriau ond awyrgylch y gwaith.

Mewn cydweithrediad ag Oxfam Cymru trefnwyd digwyddiad yng Ngŵyl y Gelli. Funud olaf, clywsom na fyddai Yanick yn medru ymuno am na ddyfarnwyd fisa iddi – ond lansiwyd yr her. Alison Layland oedd awdur buddugol y darn Saesneg a fe’i chomisiynwyd i gyfieithu nofel arall gan Yanick Lahens, y tro hwn yn ei chyfanrwydd, ar gyfer gwasg Seren.

Cyhoeddir Colour of Dawn, y cyfieithiad Saesneg o’r nofel La Couleur de L’Aube fis Ebrill eleni. Er mwyn darganfod mwy am y cyfnod hwnnw ym mywyd yr awdur, dilynwch y ddolen gyswllt isod a darllenwch ymateb Yanick Lahens i’r profiad. Ymddengys y darn yn y rhifyn cyfredol o’r cylchgrawn ar-lein Words Without Borders. A dyma felly ein llwybrau llenyddol ni yng Ngymru yn gor-gyffwrdd – am ennyd fach – gyda’r cyfnod hwn yn hanes Haiti.

Oriel Gysylltiedig