Gweithdy Cyfieithu Barddoniaeth Ar-lein fel rhan o brosiect Ulysses’ Shelter gyda beirdd Y Stamp

Gweithdy Cyfieithu Barddoniaeth Ar-lein fel rhan o brosiect Ulysses’ Shelter gyda beirdd Y Stamp

13 Gorffennaf 2020

Ulysses shelter logo

Yn ystod dau benwythnos yn olynol ym mis Mehefin, cynhaliwyd gweithdy cyfieithu ar-lein ar gyfer beirdd y rhaglen Ulysses’ Shelter, sef brosiect a gyd-ariennir gan Raglen Ewrop Greadigol yr Undeb Ewropeaidd, gyda’r nod o greu rhwydwaith gyfnewid o breswyliadau llenyddol ar draws Ewrop, yn bennaf ar gyfer to ifanc o awduron a chyfieithwyr llenyddol o’r gwledydd hynny sydd yn rhan o’r rhwydwaith. Arweinir y prosiect gan y cyhoeddwr ac asiantaeth lenyddol Sandorf (Croatia) ac yma yng Nghymru, cyd-bartneriaid y prosiect yw Llenyddiaeth ar draws Ffiniau a Chyfnewidfa Lên Cymru. Y partneriaid eraill yw Krokodil (Belgrade, Serbia) Thraka (Larissa, Gwlad Groeg) a Društvo slovenskih pisateljev / (Cymdeithas Awduron Slofenia / Slovene Writers’ Association) (Ljubjana, Slofenia).

Mae’r rhaglen o breswyliadau yn rhoi cyfle i bob awdur neu gyfieithydd sy’n rhan o'r prosiect dreulio amser mewn dau leoliad ac i gysylltu a dwy sîn lenyddol. Bu rhaid gohirio gweithgareddau wyneb yn wyneb oherwydd cyfyngiadau teithio yn sgil Covid-19, gan ddisodli’r rhain â gweithgareddau digidol. Yng Nghymru, cynhaliodd Llenyddiaeth ar draws Ffiniau a Chyfnewidfa Lên Cymru sesiwn ar-lein rhwng yr awduron o Gymru sydd yn rhan o raglen 2020 â’r awduron a’r cyfieithwyr a oedd i fod i ddod i Gymru eleni. Yn ogystal, trefnwyd gweithdy cyfieithu barddoniaeth, mewn cydweithrediad â’r Stamp, a oedd yn cynnwys holl feirdd y prosiect eleni ynghyd â beirdd eraill o Gymru.

Roedd Grug Muse, sef un o bedwar awdur o Gymru yn rhan o’r rhaglen a un o olygyddion Y Stamp, wedi cymryd rhan yn y gweithdy ynghyd â Morgan Owen, Judith Musker Turner a Dyfan Lewis. Ymunodd rhai o'r beirdd ynghlwm gyda'r rhaglen o'r gwledydd eraill hefyd, gan gynnwys yr awdur, bardd a chyfieithydd llenyddol Maja Ručević, y bardd Maša Seničić o Serbia, a'r awdur a bardd,Thomas Tsalapatis o’r Wlad Groeg. Bu cyfieithu dwyochrog wrth i’r beirdd cyfieithu gwaith eu gilydd a defnyddio cyfieithiadau Saesneg fel iaith bont lle nad oedden nhw’n medru'r iaith gwreiddiol.

Darllenwch y cyfieithiadau o'r gweithdy gan y beirdd Cymraeg yma.