Ymateb arbennig i Owen Sheers

Ymateb arbennig i Owen Sheers

06 Rhagfyr 2012

Bu'r ymateb i Owen Sheers yn Ffair Lyfrau Guadalajara, Mecsico yr wythnos ddiwethaf yn arbennig. Cyhoeddwyd cyfieithiad Sbaeneg newydd o'i gerddi gan wasg El Tucán de Virginia, a gyfieithwyd gan y nofelydd a'r bardd nodedig, Andrés Neuman. Bydd rheini sydd eisoes yn gyfarwydd â nofel Andrés, Traveller of the Century (Pushkin Press, 2012), wedi ei chyfieithu gan Nick Caistor and Lorenza Garcia, â diddordeb i wybod y bydd yn dychwelyd i Gymru yn y gwanwyn ar gyfer Fiction Fiesta. Dywedodd Roberto Bolaño amdano: 'The literature of the twenty-first century will belong to Neuman and a few other blood brothers of his.'