Patrick McGuinness yn Denu Cynulleidfa

Patrick McGuinness yn Denu Cynulleidfa

19 Ebrill 2016

20160416 A27 K7451

Dydd Sadwrn 16 Ebrill am 11.30 daeth dros gant o bobl ynghyd yn Neuadd Fawr yr Hen Goleg yn Aberystwyth ar gyfer darlith gyhoeddus yr Athro Patrick McGuinness FLSW. Noddwyd y ddarlith gan y Gymdeithas Ddysgedig, a chyflwynwyd y darlithydd gan yr Athro M. Wynn Thomas, un o sefydlwyr y Gymdeithas.

Adlais o deitl ei lyfr diweddaraf oedd pwnc Patrick Mc Guinness, sef “Other People's Countries: Tales of Literary and Cultural Belonging” oedd yn addas iawn ar gyfer y gynulleidfa gymysg. Roedd tua hanner y gynulleidfa yn gynadleddwyr a ddaeth o bell i drafod datblygu cynulleidfaoedd ar gyfer llenyddiaeth ryngwladol – cynhadledd a drefnwyd gan ein chwaer-sefydliad Llenyddiaeth ar draws Ffiniau. Deuai'r hanner arall o'r gymdeithas leol yn Aberystwyth a gellir ystyried y ddarlith fel enghraifft ymarferol o'r hyn yr oedd y gynhadledd yn ei drafod, sef sut i ddatblygu cynulleidfa ar gyfer llenyddiaeth sy'n tarddu o ddiwylliannau eraill, bach a mawr.

Yn dilyn y ddarlith, cafwyd derbyniad lle clywyd lleisiau egnïol y grŵp corawl Sgarmes yn atseinio'n soniarus yn yr Hen Gwad.