Patrick McGuinness ar restr hir Man Booker 2011

Patrick McGuinness ar restr hir Man Booker 2011

31 Gorffennaf 2011

Dewiswyd nofel gyntaf Patrick McGuinness - bardd, cyfieithydd ac ysgolhaig sydd yn byw yng Nghaernarfon - ar gyfer rhestr hir gwobr Man Booker. Cyhoeddwyd The Last Hundred Days gan wasg Seren ym Mhenybont ar Ogwr. Mae'n nofel sy'n cael ei hadrodd gan fyfyriwr Saesneg sy'n byw yn Bucharest yn ystod dyddiau olaf y teyrn Nikolai Ceauşescu. Mae Patrick McGuinness yn Athro Ffrangeg ym Mhrifysgol Rhydychen ac yn awdur dwy gyfrol o farddoniaeth: The Canals of Mars (Carcanet, 2004) a Jilted City (Carcanet 2010), a ddewiswyd ar gyfer Cwpwrdd Llyfrau Hydref 2011 y Gyfnewidfa. Bydd enillydd gwobr Man Booker yn ennill £50,000, gyda'r chwe awdur ar y rhestr fer yn derbyn £2,500 yr un ac argraffiad arbennig o'u nofelau.