Patrick McGuinness yn ennill un o brif wobrau Ffrainc

Patrick McGuinness yn ennill un o brif wobrau Ffrainc

30 Tachwedd 2013

Les cents derniers jours

Wedi cyrraedd rhestr fer nifer o brif wobrau Ffrainc, gan gynnwys y Prix Médicis Étranger a'r Prix Femina ar gyfer ffuglen o dramor, mae cyfieithiad Ffrangeg Karine Lalechère o nofel Patrick McGuinness am ddyddiau olaf Ceaucescu, Les cents derniers jours, wedi ennill y Prix du Premier Roman Étranger 2013. Cyhoeddwyd y cyfieithiad Ffrangeg gan wasg Grasset. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at gyfrol nesaf Patrick McGuinness, sef Other People's Countries, i'w rhyddhau gan wasg Jonathan Cape yn Chwefror 2014.

Darllenwch adolygiad o'r cyfieithiad Ffrangeg o The Last Hundred Days gan Patrick McGuinness gan olygydd llenyddol Le Monde, Florence Noiville.

Gellir ymweld â gwefan Patrick McGuinness yma.