Dathlu cyhoeddi Perffaith Nam gan Menna Elfyn mewn Hindi yn Llundain

Dathlu cyhoeddi Perffaith Nam gan Menna Elfyn mewn Hindi yn Llundain

15 Rhagfyr 2021

Perffaith Nam

Cynhelir noson dair ieithog yn y Poetry Café, Llundain, dan nawdd y Poetry Sociecty nos Wener, 19 Mehefin 2015 i ddathlu cyhoeddi cyfrol Menna Elfyn, Perffaith Nam mewn cyfieithiad Hindi.

Cyfieithwyd y gyfrol gan y bardd, y cyfieithydd a’r golygydd Rati Saxena. Cyhoeddir y gyfrol gan wasg Kritya Publication gyda chefnogaeth grant cyfieithu gan Gyfnewidfa Lên Cymru.

Mae Rati Saxena wedi cyhoeddi 11 casgliad o farddoniaeth mewn Hindi a Saesneg, ac mae ei gwaith wedi ei gyfieithu i’r Eidaleg, y Wyddeleg, Malayalam a’r Saesneg gan feirdd eraill. Mae wedi cyfieithu barddoniaeth a llenyddiaeth o’r Malayam a chyfrolau Norwyeg i’r Hindi, yn ogystal a chyhoeddi erthyglau ar gyfieithu mewn sawl cyfnodolyn. Yn 2000 enillodd wobr Kendriya Sahitya Akademi am gyfieithu.

Yn ystod y noson, fe fydd Menna Elfyn a Rati Saxena yn darllen eu gwaith mewn Cymraeg, Saesneg a Hindi, yn ogystal a thrafod gwaith eu gilydd a’r broses o gyfieithu.

Menna Elfyn a Rati Saxena, Poetry Cafe, Llundain
19 Mehefin 2015, 7:00yh - 9:00yh. Mynediad am ddim. Fodd bynnag, dylid e-bostio marketing@poetrysociety.org.uk er mwyn sicrhau tocyn.

Am fwy o wybodaeth am y noson, ewch i wefan y Poetry Society.