Cerddi Heddwch

Cerddi Heddwch

05 Gorffennaf 2021

E5e K Jo B Xo AA6u7 M

Cynhaliwyd digwyddiad arbennig, tairieithog, neithiwr (4 Gorffennaf 2021), gyda beirdd o Gymru ac o Wlad y Basg yn rhannu eu cerddi ar y thema heddwch.

Trefnwyd y digwyddiad gan Academi Heddwch Cymru ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, ar y cyd gyda Wales PEN Cymru, Euskal PEN a Chyfnewidfa Lên Cymru.

Cawsom gyfle i glywed tri bardd Cymraeg: Menna Elfyn, Hywel Griffiths a Mererid Hopwood, a thri bardd Basgeg: Itxaro Borda, Leire Bilbao a Kirmen Uribe, yn trafod ac yn darllen eu cerddi.

Mae Mererid Hopwood hefyd yn Ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru, a chawsom gair o gyflwyniad a chyd-destun i’r digwyddiad ganddi hi.

Mae Menna Elfyn yn un o feirdd mwyaf blaenllaw Cymru. Hi yw Llywydd Wales PEN Cymru, a hi hefyd yw’r bardd Cymraeg sydd â’i gwaith wedi ei gyfieithu i’r nifer fwyaf o ieithoedd – erbyn hyn bron i bymtheg o ieithoedd.

Mae Hywel Griffiths yn fardd, nofelydd, daearyddwr ac yn uwch-ddarlithydd mewn daearyddiaeth ffisegol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n barddoni am bynciau amrywiol – tirwedd a phobl Cymru a’r byd, teulu, gwleidyddiaeth a’r iaith Gymraeg – ac mewn mesurau amrywiol caeth a rhydd.

Mae Itxaro Borda yn fardd, yn nofelydd, yn golofnydd, yn ddramodydd ac yn gyfieithydd o Wlad y Basg.

Mae Leire Bilbao yn fardd ac yn awdur llyfrau plant. Mae ei gwaith wedi ei gyfieithu I nifer o ieithoedd ac wedi ymddangos mewn amryw o flodeugerddi.

Mae Kirmen Uribe yn fardd, yn nofelydd ac yn ddramodydd blaenllaw. Bu yng Nghymru yn 2015 fel rhan o brosiect rhwng y Ganolfan, Prifysgol Bangor, Abertawe a Chyfnewidfa Lên Cymru. Mae ei waith wedi ei gyfieithu i nifer fawr o ieithoedd, gan gynnwys i’r Saesneg gan wasg Seren yma yng Nghymru.

Bydd recordiad o’r digwyddiad ar ein gwefan yn fuan.