Cysylltiadau Barddonol India/Cymru
Mae deg bardd o India a Chymru yn cymryd rhan mewn prosiect cyfnewid a drefnir gan Lenyddiaeth Ar Draws Ffiniau a’u partneriaid, i nodi 70 mlynedd o India annibynnol. Mae’r prosiect cydweithredol wedi dod â hwy ynghyd i archwilio lleoliadau cartrefi ei gilydd a chreu gwaith newydd mewn chwech o ieithoedd yn ystod cyfres o breswyliadau yn y ddwy wlad.
Yn ystod ail gymal y prosiect, fe fydd y beirdd yn ym ymweld a chwe dinas i gyflwyno gwaith newydd gyda darlleniadaum perfformiadau, trafodaethau a gweithdai er mwyn lansio cyfres o gyfrolau gan bartner cyhoeddi'r prosiect, Poetrywala. Fe fydd y daith yn ymweld a gwyliau yn Bhubaneswar, Chennai, Hyderabad, Jaipur a Kolkata, yn ogystal a lleoliadau yn Delhi.
-
Ionawr 12 - 14 Tata Steel Bhubaneswar Literary Meet
-
Ionawr 14 - 16 The Hindu Lit for Life Festival, Chennai
-
Ionawr 22 - 27 Tata Steel Kolkata Literary Meet – KALAM
-
Ionawr 26 - 28 Hyderabad Literary Festival
-
Ionawr 25 - 29 Zee Jaipur Literary Festival
-
Ionawr 30 Apeejay Oxford Bookstore N-81, Connaught Place, Delhi
-
Ionawr 31 Sri Aurobindo Centre for Arts and Communication
Ymwelodd y beirdd a’r cyfieithwyr, Sampurna Chattarji a Subhro Bandopadhyay, ag Aberystwyth fis Awst 2017, lle y buont yn gweithio gydag Eurig Salisbury a Nicky Arscott, cyn gorffen eu hymweliad yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Fôn.
Teithiodd Avner Pariat i Fangor fis Awst i weithio gyda Rhys Trimble.
Treuliodd y bardd a golygydd Poetry Wales, Nia Davies, amser yn Bangalore gyda Mamta Sagar, yn gweithio ar nifer o berfformiadau cyfranogol gydag artistiaid a chymunedau lleol.
Ymwelodd y beirdd Cymreig eraill â Delhi, Kolkata, Shillong a Thiruvananthapuram.
Ceir mwy o wybodaeth am y prosiect yma.
Gwrandewch ar gyfweliad Eurig Salisbury gyda Dei Tomos am y prosiect yma.