Cyhoeddi cyfieithiad Pwyleg o Un Nos Ola Leuad

Cyhoeddi cyfieithiad Pwyleg o Un Nos Ola Leuad

03 Mai 2017

UNOL Pwyleg

Cyhoeddwyd cyfieithiad Pwyleg Marta Listewnik o Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard, a hynny gan wasg Officyna gyda chefnogaeth grant cyfieithu gan Gyfnewidfa Lên Cymru.

Mae’r nofel wedi derbyn ymateb brwd, gydag adolygiadau yn y wasg a sawl cyfweliad gyda Marta Listewnik ar orsafoedd radio yng Ngwlad Pwyl ac mewn cylchgrawn ar-lein. Darlledwyd blas o’r nofel hefyd ar Polskie Radio gyda’r actor Łukasz Lewandowski ddarllen detholiadau byr o’r gyfrol.

Dechreuodd Marta Listewnik ar y gwaith o gyfieithu Un Nos Ola Leuad yn ystod preswyliad a gynhalwyd gan Gyfnewidfa Lên Cymru yn Nhŷ Newydd. Yn ystod y preswyliad, cyflwynwyd cyfieithwyr o’r Almaen, Catalwnia, India a Rwmania cafwyd cyfle i drafod clasuron o Gymru gydag ysgolheigion ac arbenigwyr, ymweld â lleoliadau o bwysigrwydd i’r gweithiau y maent yn eu cyfieithu, yn ogystal â chael cyfle i ddod i adnabod y byd llenyddol yng Nghymru yn well.

Trefnwyd y preswyliad fel rhan o brosiect Schwob oedd a’r nod o dynnu sylw at ‘glasuron modern eithriadol, sy'n anodd eu canfod, sy'n hogi'r awydd am fwy.’ Derbyniodd prosiect Schwob gefnogaeth ariannol fel rhan o Raglen Ddiwylliant yr Undeb Ewropeiadd.

  • Darllenwch argraffiadau Marta Listewnik yn dilyn preswyliad Schwob yma.
  • Gwrandewch ar gyfweliad Marta Listewnik gyda gorsaf radio yng ngwlad Pwyl yma.
  • Gwandewch ar yr actor Łukasz Lewandowski yn darllen detholiad o’r gwaith yma.
  • Cyfweliad gyda Marta Listewnik ar wefan y cylchgrawn llenyddol Dwutygodnik yma:
  • Ceir cyfweliad gyda Marta Listewnik yn rhifyn mis Ebrill 2017 o gylchgrawn Barn.