Hyrwyddo llenyddiaeth o Gymru yn Ffair Lyfrau Ryngwladol Abu Dhabi

Hyrwyddo llenyddiaeth o Gymru yn Ffair Lyfrau Ryngwladol Abu Dhabi

17 Mai 2015

ADIBF LOGO

Fe fydd Silff Lyfrau 2014-2015 Cyfnewidfa Lên Cymru yn cael ei hyrwyddo yn Ffair Lyfrau Ryngwladol Abu Dhabi rhwng 7-13 Mai 2015.

Fe fydd ein chwaer sefydliad, Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, yn mynychu Ffair Lyfrau Ryngwladol Abu Dhabi eto eleni, er mwyn hwyluso cyfnewid llenyddol a chyfieithu rhwng Ewrop a’r byd Arabaidd.

Unwaith eto, fe fydd Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau yn hyrwyddo llenyddiaeth o Gymru, yn benodol cyfrolau Silff Lyfrau 2014 – 2015, detholiad blynyddol o lyfrau a argymhellir gan y Gyfnewidfa ar gyfer cyfieithu dramor. Hyrwyddir ein grantiau ar gael i gyhoeddwyr tramor er cyfieithu llenyddiaeth o Gymru yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ogystal.

Fe fydd Alexandra Büchler, cyfarwyddwr y sefydliad ynghyd a Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr Sefydliad Mercator, cartref Cyfneiwdfa Lên Cymru, hefyd yn siarad mewn nifer o ddigwyddiadau a gynhelir fel rhan o raglen Ddiwylliannol a Phroffesiynol y Ffair.

Am fwy o wybodaeth am Ffair Lyfrau Abu Dhabi ewch i www.adbookfair.com

Oriel Gysylltiedig

Cynnwys Cysylltiedig