23 Hydref 2012
Rydym yn falch o gyhoeddi bod y ganolfan Brydeinig ar gyfer cyfieithu llenyddol - y British Centre for Literary Translation - yn cydweithio â’r Gyfnewidfa Lên a Thŷ Cyfieithu Cymru eleni er mwyn cynnig lle i gyfieithydd Cymraeg→Saesneg ar y rhaglen fentora fydd yn rhedeg o Ionawr y 1af hyd Fehefin y 30ain, 2013.
Mae’r rhaglen wedi ei theilwra ar gyfer cyfieithwyr i’r Saesneg sydd yn dangos addewid yn hytrach nag yn meddu ar brofiad helaeth – cyfieithwyr sydd mewn cyfnod yn eu gyrfa lle y byddent yn medru cael budd o weithio’n agos gyda mentor am gyfnod o 6 mis.
Bydd lle i 15 o gyfieithwyr, yn cyfieithu o 13 o ieithoedd, gan gynnwys Cymraeg, mewn partneriaeth gyda’r Gyfnewidfa Lên a Thŷ Cyfieithu, gyda chefnogaeth ariannol Llenyddiaeth Cymru. Yr ieithoedd fydd:
Arabeg (mentor PAUL STARKEY)
Daneg (mentor BARBARA HAVELAND)
Is-Almaeneg (mentor DAVID COLMER)
Groeg (mentor DAVID CONNOLLY)
Eidaleg (mentor HOWARD CURTIS)
Siapanëg (mentor MICHAEL EMMERICH)
Norwyeg (mentor DON BARTLETT)
Pwyleg (mentor ANTONIA LLOYD-JONES)
Portiwgëg (mentor MARGARET JULL COSTA)
Rwsieg (mentor ROBERT CHANDLER)
Swedeg (mentor SARAH DEATH)
Tamil (mentor LAKSHMI HOLMSTROM)
Cymraeg (mentor TONY BIANCHI)
Bydd cyfle i hefyd i gyfieithwyr o’r Tsinëg i’r Saesneg (mentor NICKY HARMAN) fel rhan o wobr Harvill Secker ar gyfer cyfieithwyr ifanc, ac mewn Twrceg (mentor rhyddiaith MAUREEN FREELY, mentor barddoniaeth SASHA DUGDALE) fel rhan o wobr gyfieithu sy’n cael ei chynnig gan y Cyngor Prydeinig yn Nhwrci.
Dylid anfon ceisiadau at Sarah Bower, sef cydlynydd y cynllun mentora: S.Bower@uea.ac.uk.
Disgwylir i’r mwyafrif o geisiadau ddod gan gyfieithwyr sy’n byw ac yn gweithio ym Mhrydain, ond byddwn yn ystyried ceisiadau hefyd gan gyfieithwyr sy’n byw dramor.
I ymgeisio, dylid anfon y canlynol:
• CV byr, diweddar;
• llythyr yn nodi pam eich bod o’r farn y byddech yn addas ar gyfer y cynllun, sut y byddech yn manteisio ac yn defnyddio’r cyfle;
• sampl byr o’r gwaith cyfieithu (dim mwy na 2,000 o eiriau) gyda nodiadau.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw’r 31ain o Hydref 2012.
Byddwn yn cysylltu gydag ymgeiswyr llwyddiannus erbyn y 30ain o Dachwedd. Bydd y cyfnod mentora yn dechrau’n syth ar ôl gwyliau’r flwyddyn newydd.
Ceir mwy o wybodaeth yma: www.bclt.org.uk