Cynrychiolaeth yng Nghynhadledd Ewrop Greadigol yn Llundain

Cynrychiolaeth yng Nghynhadledd Ewrop Greadigol yn Llundain

11 Medi 2018

Dmt7 Z Ak X4 A Egt TR

Bydd Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr Mercator Rhyngwladol cartref Cyfnewidfa Lên Cymru, yn cymryd rhan yng Nghynhadledd Ewrop Greadigol yn Llundain yr wythnos hon, gan gynrychioli ein chwaer sefydliad, Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau.

Bydd y gynhadledd sy’n trafod pwysigrwydd rhwydweithiau yn archwilio pam fod rhwydweithiau mor hanfodol, sut i wneud y mwyaf ohonynt, a beth gall y sector ei golli wrth fynd yn annibynnol.

Trefnir y gynhadledd gan Creative Europe Desk UK ac fe’i chynhelir ar y 12fed o Fedi yng Nghanolfan Barbican, Llundain.

Darllenwch fwy am y gynhadledd yma.