Llysgennad Cymru Greadigol, Richard Gwyn yn Bogotá

Llysgennad Cymru Greadigol, Richard Gwyn yn Bogotá

09 Medi 2014

Bogota cathedral

Mae Llysgennad Cymru Greadigol Richard Gwyn wedi cyrraedd Bogotá, Colombia i gymryd rhan yn rhaglen ddiwylliannol Las Líneas de su Mano – ble y bydd yn perfformio’i waith ac yn trafod cyfieithu.

Darllenwch ei argraffiadau ar y ddau fyd ym Mogotá, ei ddadansoddiad o’r cysyniad o’r hen wŷr doeth a’r cwestiwn sydd fel petai yn ei ddilyn i bob man, ble mae’r lleill?, ar flog ei hunan arall, Ricardo Blanco.

Gan adeiladu ar y cydweithio a welwyd drwy Gadwyn Awduron America Ladin y llynedd, mae Cyfnewidfa Lên Cymru yn falch i gefnogi Richard Gwyn yn ystod ei gyfnod fel Llysgennad Cymru Greadigol.

Mae cydweithio gyda Club de Traductores Literarios de Buenos Aires, a chefnogi partneriaid yn cynnwys gwyliau llenyddol rhyngwladol, phrifysgolion, a chylchgronau yn Chile,Colombia a Mecsico, yn rhoi cyfle unigryw i Gyfnewidfa Len Cymru i ehangu ar y cyfnewid llenyddol rhwng Cymru ac America Ladin.

Gwobrwyir dyfarniadau Llysgennad Cymru Greadigol trwy enwebiad ac maent yn cydnabod llwyddiant unigol arwyddocaol ym myd y celfyddydau ynghyd â'r nod o godi proffil diwylliant Cymru y tu hwnt i'w ffiniau.

Darllenwch flog Ricardo Blanco yma.