Sian Northey yn teithio i'r India

Sian Northey yn teithio i'r India

06 Mawrth 2018

Sian Northey India

Mae'r bardd a'r awdur Sian Northey wedi teithio i'r India i gymryd rhan mewn gweithdy cyfieithu, wedi ei drefnu gan ein chwaer sefydliad Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau (LAF), ar y cyd â Sahitya Pravarthaka Saharkarana Sangham (SPCS).

Cynhelir y gweithdy ynghyd a darlleniadau yn Kerala, yn Ne India, mewn cydweithrediad Gŵyl Lyfrau ac Awduron Ryngwladol Krithi, gyda'r nod o sicrhau sgwrs rhwng awduron o Ewrop a Kerala.

Mae'r beirdd Malayalam Anitha Thampi, Anwar Ali, V. M. Girija, Pramod KM a P Raman yn cymryd rhan o'r India gyda Sian Northey, Vanni Bianconi (Swistir) a Martí Sales (Catalonia) yn cynrychioli Ewrop. Yn ystod y gweithdy fe fyddant yn trafod ac yn cyfieithu gwaith ei gilydd ac yn cyfarfod cynulleidfaoedd mewn tair dinas yn Ngherala. Cydlynir y gweithdy gan gyfarwyddwr Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, Alexandra Büchler a'r bardd, yr awdur a'r cyfieithydd Sampurna Chattarji.

Mae Sian Northey yn fardd, yn awdur a chyfieithydd o Ogledd Cymru. Detholwyd dwy o'i nofelau, Yn y Tŷ Hwn (In This House) a Rhyd-y-Gro i Silff Lyfrau'r Gyfnewidfa, detholiad blynyddol o lyfrau a argymhellir gan y Gyfnewidfa ar gyfer cyfieithu dramor.

Mae LAF yn cysylltu llenyddiaeth Ewrop ac India ers bron i ddegawd drwy weithdai, digwyddiadau cyhoeddus a chyfarfodydd rhwng arbenigwyr ar lenyddiaeth a chyhoeddi, yn benodol drwy’r cynllun Poetry Connections. Cynhelir y cynllun gan SPCS, a chaiff ei gefnogi gan Lywodraeth Kerala, Cyngor Celfyddydau Cymru, Institute Ramon Llull a Pro Helvetia – Cyngor Celfyddydau’r Swistir.

Cynhelir y digwyddiadau canlynol yn Kerala.

Thrissur

5 Mawrth, 4:00 – 5:30 pm

Kerala Sahitya Akademi, Palace Road, Chembukkav, Thrissur, Kerala 680 020

Kochi

7 Mawrth, 10:00am

Palas Bolgatty, Kochi, Lalithambika Antharjanam Hall, Kochi

Thiruvananthapuram

9 Mawrth, 2:30pm

Prifysgol Kerala, Palayam, Thiruvananthapuram, Kerala