Cyhoeddi cyfieithiad Sbaeneg o Intermission gan Owen Martell yn Yr Ariannin.

Cyhoeddi cyfieithiad Sbaeneg o Intermission gan Owen Martell yn Yr Ariannin.

24 Hydref 2017

OM yn Buenos Aires

Cyhoeddwyd Intervalo, cyfieithiad Sbaeneg Jorge Fondebrider o nofel Saesneg Owen Martell, Intermission, gan wasg Bajo La Luna yn yr Ariannin.

Mae'r nofel wedi ei gosod yn y byd jazz, ac wedi ei strwythuro fel cyfansoddiad cerddorol, gan blethu gwead jazz cymhleth yn naratif cynnil pwerus ar y broses o alaru, ac yn y pen draw, dderbyn colled.

Detholwyd y gyfrol i Silff Lyfrau 2013. Cyhoeddwyd cyfieithiad Ffrangeg Robert Davreu o'r gyfrol gan wasg Autrement yn 2013 a chyfieithiad Almaeneg Anke Caroline Burger gan Klaus Wagenbach yn 2014.

Cefnogwyd cyfieithiad Jorge Fondebrider gan grant cyfieithu Cyfnewidfa Lên Cymru.

Llun: Intervalo gan Owen Martell ar werth yn siop lyfrau Eterna Cadencia, Buenos Aires, Yr Ariannin.