Dathlu cyhoeddi cyfieithiad Sbaeneg o The Vagabond’s Breakfast yn America Ladin

Dathlu cyhoeddi cyfieithiad Sbaeneg o The Vagabond’s Breakfast yn America Ladin

28 Hydref 2014

El desayuno del vagabundo 200x0 00001314522936

Cynhelir noson arbennig yn Libreria Gandhi, Malabia 1784, Buenos Aires nos Fercher, Hydref 29ain am 19:00 i ddathlu cyhoeddi, El desyauno del vagabundo, cyfieithiad Sbaeneg Ines Garland a Jorge Fondebrider o The Vagabond’s Breakfast gan Richard Gwyn. Derbyniodd y cyhoeddwr, Bajo la Luna, grant cyfieithu Cyfnewidfa Lên Cymru er mwyn cyhoeddi’r nofel hunangofiannol hon.

Yna, nos Sul, Tachwedd 2ail 2014, yn Santiago de Chile, cynhelir noson ddathlu arbennig gan gyhoeddwyr y gyfrol yn Chile, LOM ediciones.

Mae Richard Gwyn wedi bod yn teithio ar draws America Ladin drwy 2014 a hynny fel Llysgennad Cymru Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru. Dyfarnir y wobr trwy enwebiad, a’i bwriad yw cydnabod llwyddiant unigol arwyddocaol ym myd y celfyddydau ynghyd a’r nod o godi proffil diwylliant Cymru y tu hwnt i'w ffiniau. Mae'n dychwelyd y mis hwn er mwyn dathlu cyhoeddi, El desyauno del vagabundo, gyda chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Gan adeiladu ar y cydweithio a welwyd drwy Gadwyn Awduron America Ladin yn 2013, mae Cyfnewidfa Lên Cymru yn falch i gefnogi Richard Gwyn yn ystod ei gyfnod fel Llysgennad Cymru Greadigol. Mae cydweithio gyda Club de Traductores Literarios de Buenos Aires, a chefnogi partneriaid yn cynnwys gwyliau llenyddol rhyngwladol, phrifysgolion, a chylchgronau yn Chile, Colombia a Mecsico, yn rhoi cyfle unigryw i Gyfnewidfa Len Cymru i ehangu ar y cyfnewid llenyddol rhwng Cymru ac America Ladin.

Dilynwch ‘Daith Anorffenedig’ Richard Gwyn ar draws America Ladin drwy ddarllen ei flog yma.