Stuart Mudie yn ennill Her Gyfieithu (Saesneg) 2013

Stuart Mudie yn ennill Her Gyfieithu (Saesneg) 2013

18 Hydref 2013

Stuart Mudie

Yn nigwyddiad agoriadol Gŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Gogledd Cymru neithiwr (17.10.2013) cyhoeddwyd enw enillydd Her Gyfieithu (Saesneg) 2013. Yr Her oedd cyfieithu i'r Saesneg ddetholiad o gerddi gan y bardd o Giwba, Víctor Rodríguez Núñez. Yn beirniadu yr oedd Ned Thomas.

Mae'r enillydd, Stuart Mudie, yn Albanwr sydd yn byw ym Mharis. Cyn symud i Ffrainc bu'n gweithio am flynyddoedd yn Galicia ac yng Nghatalwnia. Yn ei waith beunyddiol mae'n ysgrifennu am gyfrifiaduron. Mae hefyd yn ysgrifennu ar gyfer nifer o fandiau yn Ffrainc.

"I only took part in the Translation Challenge for the mental exercise of translating a more creative piece of work than any of the material I've been called upon to translate professionally in the past," eglurodd Stuart, "and I certainly never expected to win this prize. After all, translating poetry doesn't really use the same set of skills as working on computer reference guides. I was also inspired by one of my poetic heroes, the late Scots Makar Edwin Morgan, whose translations into Scots and English helped me discover some of the work of many poets I would never otherwise have read."

Yn gynharach eleni yn yr Eisteddfod, gwobrwywyd Mererid Hopwood gyda Ffon Farddol am ei chyfieithiadau o'r un cerddi i'r Gymraeg.

Oriel Gysylltiedig