Llwyddiant i awduron ein Silff Lyfrau

Llwyddiant i awduron ein Silff Lyfrau

17 Gorffennaf 2014

Bookshelf Autumn2013

Daeth nifer o gyfrolau Silff Lyfrau 2013 - 2014 Cyfnewidfa Lên Cymru i’r brig yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2014.

Enillodd nofel Francesca Rhydderch The Rice Paper Diaries (Seren, 2013) y categori ffuglen (Saesneg) tra cyrhaeddodd Eneidiau Aled Jones Williams a Paris Wiliam Owen Roberts restr fer y categori Ffuglen (Cymraeg). Gwelwyd cyn awduron eraill y Silff Lyfrau, Siân Northey a Tessa Hadely hefyd yn cyrraedd y rhestr fer.

Cyhoeddwyd enillwyr Llyfr y Flwyddyn 2014 mewn seremoni yng Nghaernarfon. Dyfarnodd y beirniad Gareth Miles, Eurig Salisbury a Lowri Cooke brif wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn i nofel Ioan Kidd, Dewis, nofel sy'n dilyn Mari a’i theulu wrth iddynt ddygymod â sawl digwyddiad a sefyllfa anodd gan gynnwys deurywioldeb tad, ysgariad, a salwch terfynol.

Owen Sheers a’i gyfrol Pink Mist oedd enillydd y brif wobr Saesneg yn nol y beirniad Saesneg Andrew Webb, Jasper Rees, a Nadia Kamil.

Daeth y cyfrolau i’r brig rhestr fer oedd yn cynnwys cyfrolau Ffeithiol-Greadigol, ffuglen a barddoniaeth.

Enillwyr yn llawn

Cymraeg
Enillydd y categori Barddoniaeth Rhwng y Llinellau, Christine James (Cyhoeddiadau Barddas);
Enillydd y categori Ffuglen Dewis, Ioan Kidd (Gwasg Gomer);
Enillydd y categori Ffeithiol Greadigol Bob: Cofiant R. Williams Parry 1884-1956, Alan Llwyd (Gwasg Gomer).

Saesneg
Enillydd Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias Pink Mist,Owen Sheers (Faber and Faber);
Enillydd y categori Ffuglen oedd The Rice Paper Diaries, Francesca Rhydderch (Seren)
Enillydd y categori Ffeithiol Greadigol Rhys Davies: A Writer’s Life, Meic Stephens,(Parthian)

Dyma’r cyfrolau cyrhaeddodd y rhestr fer eleni:

Rhestr Fer Cymraeg

Barddoniaeth

Rhwng y Llinellau, Christine James (Cyhoeddiadau Barddas)

Trwy Ddyddiau Gwydr, Sian Northey (Gwasg Carreg Gwalch)

Lôn Fain, Dafydd John Pritchard (Cyhoeddiadau Barddas)

Ffuglen

Dewis, Ioan Kidd (Gwasg Gomer)

Paris, Wiliam Owen Roberts (Cyhoeddiadau Barddas)

Eneidiau, Aled Jones Williams (Gwasg Carreg Gwalch)

Ffeithiol Greadigol

Bob: Cofiant R. Williams Parry 1884-1956, Alan Llwyd (Gwasg Gomer)

Y Brenhinbren: Bywyd a Gwaith Thomas Parry 1904-1985, Derec Llwyd Morgan (Gwasg Gomer)

Ffarwél i Freiburg: Crwydriadau Cynnar T. H. Parry-Williams, Angharad Price (Gwasg Gomer)

Rhestr Fer Saesneg

Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias

Barkin!, Mike Jenkins (Gwasg Carreg Gwalch)

The Shape of a Forest, Jemma L. King (Parthian)

Pink Mist, Owen Sheers (Faber and Faber)

Ffuglen

Clever Girl, Tessa Hadley (Jonathan Cape)

The Drive, Tyler Keevil (Myriad Editions)

The Rice Paper Diaries, Francesca Rhydderch (Seren)

Ffeithiol Greadigol
Rhys Davies: A Writer’s Life, Meic Stephens (Parthian)

R. S. Thomas: Serial Obsessive, M. Wynn Thomas (Gwasg Prifysgol Cymru)

Neither Have I Wings to Fly, Thelma Wheatley (Inanna Publications)