Tessa Hadley and Francesca Rhydderch short listed for the BBC National Short Story Award

Tessa Hadley a Francesca Rhydderch yn cyrraedd rhestr fer BBC National Short Story Award

Mae straeon byrion gan Tessa Hadley a Francesca Rhydderch wedi cyrraedd rhestr fer gwobr the BBC National Short Story Award 2014.

Mae The Taxidermist’s Daughter, gan Francesca Rhydderch yn adrodd hanes merch ifanc yng Nghymru wedi’r rhyfel yn dod yn ymwybodol o’i rhywioldeb.  Yn Bad Dreams gan Tessa Hadley mae plentyn yn deffro yng nghanol y nos yn amlygu'r anesmwythyd sy’n llechu dan yr wyneb yn ei chartref.

Mae’r rhestr fer, sy’n cynnwys menywod yn unig eleni, hefyd yn cynnwys Zadie Smith, Lionel Shiver a Rose Tremain.

Mae'r wobr yn un o wobrau mwyaf ei bri ar gyfer stori fer unigol, gyda’r enillydd yn derbyn £15,000, yr ail yn derbyn £3,000 a’r tri ar y rhestr fer yn derbyn £500 yr un.

Cyhoeddir yr enillydd mewn seremoni wobrwyo yn Broadcasting House Llundain ar Fedi’r 30ain yn fyw ar raglen radio BBC Radio 4, Front Row.

Darllenwch fwy am wobr BBC National Short Story Award yma.

Y Diweddaraf